5 Mai 2015
Annwyl Syr / Madam
Ymgynghoriad ar ymchwiliad i Ddyfodol Cyllido
Mae’r dadleuon ynghylch cyllid teg i Gymru wedi cael eu nodi yn adroddiad Comisiwn Holtham yn 2010 ac adroddiad Comisiwn Silk (Rhan 1) yn 2012, a bu datblygiadau mwy diweddar ledled y DU a all effeithio ar setliad datganoli Cymru.
Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Ddyfodol Cyllido. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.
Er mwyn helpu gyda’r ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau yn Atodiad A.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu’n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy’n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 5 Mehefin 2015. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi’r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o’r polisi hwn i’w gael drwy gysylltu â’r Clerc (Bethan Davies - 0300 200 6372).
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd